Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Gwener, 5 Ebrill 2019
Amser:
09.31 -
11.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5676
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Llyr Gruffydd AC Dai Lloyd AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) |
1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant, Janet Finch-Saunders, Russell George, John Griffiths, Mike Hedges, Nick Ramsay a Bethan Sayed.
1. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer eitem 2.1.
2. Enwebwyd David Rees gan Mick Antoniw a chafodd ei ethol yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
3. Esgusododd Ann Jones, AC, ei hun o'r cyfarfod ar gyfer eitem 2.1.
4. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Prif Weinidog am ei Ddatganiad Ysgrifenedig.
Bu'r Pwyllgor yn craffu ar flaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad.
1. Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
2. Datganodd Lynne Neagle y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Efallai y byddai aelod o staff dros dro yn ei swyddfa wedi bod yn rhan o'r trafodaethau mewn perthynas ag eitem 2.1.
Gan fod nifer o faterion amserol wedi codi mewn busnes cynharach, ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau o dan yr eitem hon.
Ni chynigiwyd y cynnig.
Ni wnaeth y Pwyllgor gynnig y cynnig i gyfarfod yn breifat i drafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol.